Cyfnod CYNRADD / PRIMARY PHASE

Croeso i’r Safle Cynradd. Campws byrlymus sy’n addysgu dysgwyr o 4-11 ar draws 6 dosbarth.

Mae'r ysgol wedi'i ffrydio'n ieithyddol. Addysgir dysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg gyda'r bwriad o ddod yn gwbl ddwyieithog erbyn diwedd blwyddyn 6, ac addysgir dysgwyr trwy gyfrwng y Saesneg gyda sesiynau Cymraeg dyddiol. Ein nôd yw arfu ein dysgwyr i drosglwyddo neu barhau ag addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

Anogir defnydd y dysgwyr o'r Gymraeg mewn gweithgareddau ffurfiol ac anffurfiol gan ddilyn gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Datblygir hyn yn yr ysgol trwy fentrau Siarter Iaith a Cymraeg Campus.

Cwricwlwm i Gymru

Gyda chyflwyniad y Cwriwcwlwm i Gymru yn 2021 rydym yn cyd-gynllunio’n thematig ar draws y 6 maes dysgu er mwyn codi dyheadau pob dysgwr. Fel cyfnod, rydym yn ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael eu cefnogi ac i wireddu’r pedwar diben er mwyn symud ymlaen. Mae addysgu a dysgu da yn rhoi her i’n holl ddysgwyr drwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu’n barhaus i gwrdd â disgwyliadau uchel ond o fewn eu cyrraedd. Rydym yn cydnabod bod pob dysgwr yn dod i’r ysgol ar wahanol gyfnodau o ddatblygiad a chyda gwahanol anghenion. Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol er mwyn bod yn ddysgwyr gydol oes.

Welcome to the Primary Site. A vibrant campus that teaches learners from 4-11 across 6 classes.

The school is linguistically streamed. Learners are taught through the medium of Welsh with the intention of becoming fully bilingual by the end of year 6, and learners are taught through the medium of English with daily Welsh sessions. Our aim is to equip our learners to transfer or continue with Welsh or English medium education competently. Learners' use of the Welsh language is encouraged in formal and informal activities following the Welsh Government's vision to have one million Welsh speakers in Wales by 2050. This is developed in the school through the Siarter Iaith and Cymraeg Campus initiatives.

Curriculum for Wales

With the introduction of the Curriculum for Wales in 2021 we are planning together thematically across the 6 learning areas in order to raise the aspirations of all learners. As a phase, we are considering how all learners will be supported and to realise the four purposes in order to move forward. Good teaching and learning challenges all our learners by encouraging them to recognise the importance of continually striving to meet high expectations but also be within their reach. We recognise that all pupils come to school at different stages of development and with different needs. Our curriculum will provide opportunities and experiences to develop the key concepts, knowledge and skills in order to be lifelong learners.

Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2

Athrawes / Teacher- Mrs Mirain Jones

Cynorthwywyr Dosbarth / Teaching Assistants - Mrs Ffion Williams, Miss Ffion Evans

Reception, Year 1 and Year 2

Athrawes / Teacher - Mrs Gail Jones

Cynorthwyydd Dosbarth / Teaching Assistant - Miss Rowena Huxley

Dosbarthiadau / Classes

Blwyddyn 3 a 4

Athrawes- Mrs Sioned Chapman Jones

Cynorthwyydd Dosbarth / Teaching Assistant - Mrs Gwen Edwards

Year 3 and Year 4

Athrawon / Teachers - Mrs Nia Ellis / Miss Alison Hopkins

Cynorthwyydd Dosbarth / Teaching Assistant - Mrs Judy Gregory

Blwyddyn 5 a 6

Athrawes- Mrs Alison Evans

Cynorthwyydd Dosbarth / Teaching Assistant - Mrs Gwen Edwards

Year 5 and Year 6

Athrawes / Teacher- Miss Naomi King

Cynorthwyydd Dosbarth / Teaching Assistant - Mrs Beth King